MAE ble cawn ni fyw yn rhywbeth sydd yn berthnasol i bawb, ac yn fater pryder i nifer o bobl am amryw resymau.

Yma yn Sir Benfro mae ceisiadau cynllunio, a fyddai o fudd i’r ardal, yn cael eu gwrthod, tra bod rhai datblygiadau tai mewn ardaloedd lle nad oes eu hangen yn cael eu derbyn.

Er enghraifft mewn un ardal caniatawyd i hen ysgubor gael ei droi yn dy gwyliau tra gwrthodwyd caniatad i berson lleol adeiladu ty iddi ei hun gerllaw. Gwrthodwyd caniatâd i adeiladu ty, fyddai hefyd yn ysgol goginio, mewn ardal o dai gwyliau oherwydd gwrthwynebiad gan berchnogion y tai haf.

Er mwyn mynd i’r afael â’r pethau hyn rhaid eu codi gyda’r awdurdodau felly byddem yn falch o glywed am enghreifftiau tebyg – gallwch gysylltu gyda Bethan drwy ebostio bethan@cymdeithas.

org neu ffonio 01559 384378.

Yn fwy na hynny, mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i baratoi deddfwriaeth a allai sicrhau fod y tai iawn yn gallu mynd i’r lle iawn.

Er hynny mae Bil Cynllunio drafft y Llywodraeth, yn hytrach na thaclo’r problemau, yn eu dwysáu, gan olygu bod penderfyniadau cynllunio’n symud ymhellach o afael y bobl, ac yn digwydd mewn modd llai democrataidd.

BETHAN WILLIAMS

Swyddog Maes Cymdeithas yr Iaith Dyfed