Cynhaliwyd noson hwyliog yn Aberteifi yn ddiweddar i ddathlu dydd Santes Dwynwen, pryd codwyd swm sylweddol o arian i gefnogi ysgol Gymraeg sydd dros 7,000 o filltiroedd i ffwrdd ym Mhatagonia.

Y mae gwaith adeiladu yn dal i fynd yn ei flaen yn Ysgol y Cwm yn Nhrevelin, tre fechan wrth droed mynyddoedd uchel yr Andes, sydd wedi'i gefeillio gydag Aberteifi ers 2005.

Bu'n fenter fawr i sefydlu'r ysgol gan nad yw'n derbyn cefnogaeth ariannol gan lywodraeth yr Ariannin. Penderfynodd Pwyllgor Gefeillio Aberteifi/Trevelin felly i ganolbwyntio'i weithgarwch ar gefnogi'r ysgol, a bu'n gwneud hynny'n gyson ers rhai blynyddoedd bellach.

Yr ymgyrch ddiweddaraf fu rafflo darlun gan yr artist Meirion Jones, darlun a gyflwynodd yn rhodd i'r pwyllgor gefeillio i'r diben hwnnw.

Portread lliw ydyw o Vincente Evans, un o gymeriadau enwog Y Wladfa sydd wedi diddori miloedd o Gymry ar eu hymweliadau â Phatagonia. Enillydd y raffl oedd Gareth Evans o Dan-y-groes.

Ac yntau'n gyn-athro mae gan Meirion ddiddordeb mawr mewn addysg Gymraeg yn Y Wladfa. Ymwelodd â Phatagonia ddwywaith, a gwelwyd ffrwyth yr ysbrydoliaeth a gafodd yno mewn arddangosfa o dirluniau a phortreadau o gymeriadau a gyfarfu ar ei daith.

Bu'n sôn am y tebygrwydd a welodd rhwng y ddwy wlad mewn cyfarfod a drefnwyd gan y pwyllgor gefeillio yn Aberteifi y llynedd.

Lansiwyd y raffl ar achlysur cyngerdd arbennig yng nghastell Aberteifi y llynedd, pan roddodd y tenoriaid Rhys Meirion ac Aled Wyn Davies, ynghyd ag Alejandro Jones o Drevelin, a Chlwb Telyn y Castell, eu gwasanaeth am ddim er mwyn i'r elw fynd i gefnogi Ysgol y Cwm.

Yn ddiweddarach, ar ei ymweliad â Phatagonia, cyflwynodd maer Aberteifi, John Adams-Lewis, y rhodd o 3,000 o ddoleri o'r elw a wnaethpwyd i brifathrawes Ysgol y Cwm, Erika Jones, gwraig Alejandro. Y diwrnod hwnnw hefyd dadorchuddiodd y maer blac yn y dref i nodi'r gefeillio rhwng y ddwy dref.

Yn bresennol yn noson dathlu Santes Dwynwen yng Ngorffwysfa'r Pysgotwyr, Aberteifi, oedd Nia Jones sy'n athrawes yn Ysgol y Cwm ers tair blynedd.

Bu Nia, sydd adref ar ymweliad â'i rhieni yn Aberteifi, sef Gretel a Dai Jones, yn sôn am y gwaith adeiladu sy'n mynd yn ei flaen yn yr ysgol ar hyn o bryd, gan gynnwys estyniad newydd a fydd yn barod i'w agor y mis nesaf.

Soniodd hefyd pa mor werthfawrogol oedd pawb yn Nhrevelin o'r gefnogaeth y mae'r ardal hon yn ei rhoi i'r ysgol. Drwy weithgarwch y pwyllgor gefeillio, meddai, yr ardal hon sy'n cyfrannu'n fwyaf cyson i'r fenter.

Roedd ymwelydd arall o Batagonia yn bresennol yn noson dathlu Santes Dwynwen. Merch 17 oed o Drevelin yw Nahiara Bonillo, sy'n astudio Cymraeg a Saesneg yn Llanymddyfri.

Sbaeneg yw ei mamiaith, ond mae wedi meistroli'r Gymraeg yn rhyfeddol eisoes. Cyflwynwyd rhodd iddi ar ran y pwyllgor gefeillio gan y cadeirydd y Parch Eirian Wyn Lewis.

Ar ôl y pryd bwyd yng Ngorffwysfa'r Pysgotwyr cafwyd hwyl gan bawb pan gynhaliwyd cystadleuaeth ar ffurf y rhaglen deledu Siôn a Siân. Rhidian Evans oedd yn holi'r cwestiynau, a'r parau a fu'n creu chwerthin gyda'u hatebion petrusgar oedd Geraint a Mair Volk o Landudoch, a Greg Lynn ac Annie Taylor o Gaerwedros.