Pan ddaeth nifer o bobl o gyffelyb anian at ei gilydd yng Nghrymych gyda’r bwriad o godi carreg las er cof am y bardd a weinidog Niclas y Glais, buan y sylweddolwyd bod yna botensial i drefnu gweithgareddau eraill i gydfynd â’r dadorchuddio ar ddydd Sadwrn, Hydref 5.

Erbyn hyn mae'r bwriad syml o godi carreg goffa i'r bardd wedi datblygu'n benwythnos gyfan o weithgareddau.

O ganlyniad wedi’r dadorchuddio ar ben Crugiau Dwy uwchben Pentregalar fe fydd yna arddangosfa yng Nghanolfan Hermon gerllaw yn cyflwyno gwahanol agweddau o fywyd lliwgar y Parch T E Nicholas.

Roedd yn bregethwr tanllyd, yn fardd cynhyrchiol, yn Gomiwnydd rhonc ac yn ddeintydd a ddaeth yn adnabyddus trwy Gymru gyfan. Yn dilyn ei farwolaeth yn 1971 gwasgarwyd ei lwch ar yr union fan lle gosodwyd y garreg goffa.

A gyda chymorth grant Loteri Treftadaeth cyhoeddwyd llyfr, 'Nithio Neges Niclas', sy’n cynnwys llythyrau ac erthyglau o’i eiddo. Ac fel petai hynny ddim yn ddigon bydd Cwmni Theatr Bro’r Preseli yn cyflwyno drama ‘Mae’r Dydd yn Dod’ o waith Gareth Ioan yn seiliedig ar fywyd Niclas.

Bydd Gareth ei hun yn dirwyn y gweithgareddau i ben trwy arwain trafodaeth ar fywyd y gweithredwr lleol yng Nghapel Antioch nos Sul.